top of page
DSC01869.jpg

Gong Cymru
Noddfa Sain yng Nghymru

Mae trochfeydd sain Gong Cymru yn cynnig noddfa ynghanol anrhefn a phrysurdeb y byd modern. Estynir gwahoddiad ichi arafu a gorffwys - i fod yn hytrach na gwneud. Yn ogystal â hyn, cynigir sesiynau Yoga a gweithdai achlysurol sy’n cyfuno Yoga a Sain er mwyn cefnogi eich llesiant ymhellach.

Teachers

Gwasanaethau

Rwy’n cynnig tri ymarfer craidd. Gellir eu haddasu ar gyfer unigolion, parau, grwpiau a sefydliadau:

Logo cylch Gong Cymru

Sain

Lle i orffwys a chael eich cynnal gan sain.

 

Logo cylch Gong Cymru

Yoga

Gwahoddiad tyner i wrando, cysylltu a symud.

Logo cylch Gong Cymru

Yoga
a Sain

Lle mae symudiad a sain

yn uno.

Contact
Leisa Mererid gyda Gong yn Nant Gwrtheyrn

Amdanaf

Helo, Leisa ydw i, sylfaenydd Gong Cymru.

Therapydd sain ac athrawes Yoga ydw i gyda degawdau o brofiad fel actor proffesiynol. Mae gen i ddiddordeb mawr yn y ffordd ‘da ni’n cyfathrebu ac yn iachau y tu hwnt i eiriau. Wrth wraidd popeth rwy’n ei wneud mae cariad at greu profidau lle gall pobl arafu, gorffwys a dod o hyd i loches mewn byd prysur, heriol. Mae cefnogi a meithrin iechyd a lles pobl yn rhoi ymdeimlad dwfn o bwrpas, ystyr a bodlonrwydd i mi.

CYSYLLTWCH

bottom of page