

Yoga
Yoga
CARTREFOL - CYNHWYSOL - ADFEROL
Wrth wraidd fy nosbarthiadau mae ymdeimlad cryf o gymuned.
Rwy’n cynnig ymarfer sy’n addfwyn a chynhwysol gyda phwyslais cryf ar wrando yn hytrach nag ymdrechu. Mae fy sesiynau yn plethu gwaith ystum, ymarferion anadlu, meddylgarwch ac ymlacio dwfn. Does dim disgwyl i chi fod yn hyblyg, yn gryf nac yn brofiadol i ymuno, yn hytrach byddaf yn eich annog i weithio’n reddfol ac i wrando ar ddoethineb cynhenid eich corff. Wrth i ni gyd-archwilio byddaf yn cynnig gwahanol addasiadau a byddwn yn cefnogi ein gilydd drwy brofi yn hytrach na chymharu.
Mae profiad pawb o Yoga yn wahanol, a doedd fy mherthynas wreiddiol i gyda Yoga ddim bob tro yn un melys. Mae gen i atgof cryf o fod mewn dosbarth poblogaidd a phrysur a theimlo’n rhwystredig iawn gan nad oeddwn ni’n gallu gweld yr athro. Yn hytrach na bod yn amyneddgar, a gwrando ar fy nghorff, dechreuais geisio dilyn eraill gan wthio ac ymdrechu, ac o ganlyniad, mi wnes i adael y dosbarth mewn cryn boen. Penderfynais yn y fan ar lle nad oedd Yoga yn fy siwtio i! Flynyddoedd yn ddiweddarach, ar hap a damwain, mi ddois ar draws gweithdy Yoga ble cefais brofiad hollol wahanol. Roeddwn yn teimlo yn hollol bresennol yn y foment a chartrefol yn fy nghorff.
Mi gymerodd amser i mi ddod o hyd i’r arddull a'r athro iawn. Mae’r profiad yma wedi fy ysbrydoli i arwain gyda charedigrwydd, chwilfrydedd a pharch at wahaniaeth.
Mae’r rhan fwyaf o fy nosbarthiadau rheolaidd yn llawn ar hyn o bryd, gyda chymuned ffyddlon o fyfyrwyr sydd wedi tyfu gyda mi dros y blynyddoedd. Os yw’r math yma o Yoga yn apelio atoch, mae croeso mawr i chi gysylltu. Os oes digon o ddiddordeb a galw, gallaf ehangu’r arlwy yn y dyfodol.
Sesiynau Yoga
Dyma'r unig ddosbarth sydd ac argaeledd ar hyn o bryd.



Ysgolion Cynradd a Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar
Rwyf wedi ysgrifennu a cyhoeddi tri llyfr antur Yoga i blant ‘Y Goeden Ioga’ 2019, ‘Y Wariar Bach’ 2021 a ‘Y Seren Ioga’ 2026 ac rwy’n cynnig gweithdai yoga ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar yn ogystal ag ysgolion cynradd. Mae’r sesiynaiu yma’n rai chwareus sy’n cyfuno stori, symud, cerddoriaeth a chân, ymarferion meddylgarwch yn ogystal ac amser i ymlacio. Mae croeso ichi gysylltu os hoffech archebu profiad Yoga creadigol i’ch ysgol neu leoliad.


Hyfforddiant a Chymwysterau
Yoga

.png)
-
Ymarfer Dysgu Yoga, Yoga ar gyfer gofal cefn, Yoga cyn-geni (beichiogrwydd), Yoga i blant, Hyfforddwr Anadl – i gyd gyda Dru Yoga (Yoga Alliance)
-
Meddylgarwch i blant (Youth Mindfulness- Michael Bready)
-
Yoga Adferol – Anna Ashby
-
Yoga cadair– Yuva Yoga (Maria Jones)




