Amdanaf
Leisa Mererid
Dechreuais fy ngyrfa fel actor, wedi fy nenu gan gariad at adrodd straeon a chwilfrydedd dwfn am y cysylltiad rhwng llais, corff a symudiad a sut rydym ni’n cyfathrebu tu hwnt i eiriau. Hyfforddais yn Ysgol Theatr Fetropolitan Manceinion ac yn ddiweddarach symudais i Baris i astudio theatr gorfforol gyda’r diweddar Jacques LeCoq. Rhoddodd y ddau hyfforddiant bwyslais cryf ar iaith cerddoriaeth a sain yn ogystal â dulliau somatig. Mae’r blynyddoedd ffurfiannol hyn, ynghyd â degawdau o weithio fel actor, yn parhau i lywio fy ngwaith heddiw.



Daeth dod yn rhiant a llawenydd a heriau yn ei sgil, a sylweddolais fod oriau gwaith actor yn gynyddol anodd ac anymarferol. Yn ystod y cyfnod hwn o newid, daeth yoga yn angor i mi, gan fy nghefnogi trwy newidiadau pwysig mewn bywyd. Gan deimlo’n ddiolchgar iawn, teimlais yr ysfa i rannu manteision yoga ag eraill. Arweiniodd hyn fi i hyfforddi fel athro yoga ac ers dros ddeng mlynedd rwyf wedi hwyluso sesiynau addfwyn a chynhwysol, gan groesawu’n arbennig y rhai a oedd yn teimlo nad oedd yoga ar eu cyfer nhw o’r blaen.
Dros amser, fe sylweddolais pa mor llethol o flinedig yw cynifer o bobl. Gan chwilio am orffwys dyfnach fy hun, dechreuais fynychu trochfa gong yn rheolaidd, lle profais ymdeimlad dwfn o lonyddwch a thawelwch. Cefais fy swyno gan y gong a'i allu anhygoel i iachau, felly penderfynnais hyfforddi fel Therapydd Gong gyda Choleg Iachau Sain (2022-2024)
Mae fy ngwreiddiau, fy nhreftadaeth a’m mamiaith – Y Gymraeg- yn bwysig iawn i mi. Rwy’n credu’n angerddol fod gan bawb yr hawl i gael mynediad at arferion iachau yn ein hiaith gyntaf, gan fod hyn yn dyfnhau’r profiad. Rwy’n arwain fy sesiynau Sain a Yoga yn y Gymraeg, ac yn eu cynnal yn ddwyieithog lle bo’r angen er mwyn bod yn gynhwysol ac yn groesawgar i bawb.
Edrychaf ymlaen i’ch gweld yn fuan.
Leisa
xxx
