top of page

Termau Gwasanaeth

Drwy archebu neu fynychu sesiwn, rydych yn cytuno i’r telerau canlynol.
 

1. Archebu a Thalu
 

  • Rhaid archebu pob sesiwn ymlaen llaw.

  • Mae taliad yn ofynnol ar adeg archebu drwy’r wefan.

  • Cadarnheir eich lle unwaith y derbynnir y taliad.
     

2. Polisi canslo
 

Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael mewn sesiynau bath gong a yoga cymunedol.

Os na allwch fynychu, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
 

  • Mwy na 48 awr o rybudd – Gallwch dderbyn ad-daliad llawn neu drosglwyddo’ch credyd i sesiwn arall (ar gais).

  • Llai na 48 awr o rybudd – Nid oes ad-daliadau na throsglwyddiadau ar gael. Fodd bynnag, mae croeso i chi gynnig eich lle i ffrind.
     

Diolch am eich dealltwriaeth ac am gefnogi busnes bach sy’n cael ei arwain gan y galon.
 

3. Iechyd a chyfrifoldeb personol
 

Drwy fynychu sesiwn, rydych yn cadarnhau:
 

  • Eich bod yn gorfforol ac yn feddyliol abl i gymryd rhan.

  • Y byddwch yn hysbysu’r hwylusydd am unrhyw anafiadau, cyflyrau meddygol neu bryderon.

  • Eich bod yn cymryd cyfrifoldeb am eich lles eich hun yn ystod y sesiwn.
     

Mae therapi sain a yoga yn arferion lles cyflenwol ac nid ydynt yn cymryd lle cyngor neu driniaeth feddygol.
 

Os ydych yn feichiog, yn dioddef o gyflwr meddygol difrifol, yn defnyddio peiriant rheoli calon (pacemaker), ag epilepsi, neu â phryderon iechyd meddwl difrifol, ymgynghorwch â’ch meddyg cyn mynychu a rhowch wybod i’r hwylusydd ymlaen llaw.
 

4. Newidiadau neu ganslo gennym ni
 

Rydym yn cadw’r hawl i:
 

  • Newid lleoliad (o fewn pellter rhesymol)

  • Addasu amseroedd sesiwn os oes angen

  • Canslo sesiynau oherwydd salwch, nifer isel yn mynychu, neu amgylchiadau annisgwyl
     

Os byddwn yn canslo sesiwn, cynigir ad-daliad llawn neu drosglwyddiad i chi.
 

5. Atebolrwydd
 

Mae cymryd rhan ar eich risg eich hun. Nid yw Gong Cymru yn atebol am:
 

  • Anafiadau a geir yn ystod sesiynau (ac eithrio lle maent wedi’u hachosi gan esgeulustod)

  • Colli neu ddifrod i eiddo personol

bottom of page