top of page

Polisi Cynhwysedd, Cydraddoldeb a Hygyrchedd 

Mae Gong Cymru yn croesawu unigolion o bob cefndir, hunaniaeth, oedran, gallu, crefydd neu gred ac yn anelu i greu gofodau a phrofiadau ble mae pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.

​

Cynigir sesiynau yn Gymraeg a Saesneg, gan gydnabod pwysicrwydd derbyn profiadau holistaidd ac adferol yn ein mamiaith.

​

Lle bo’n bosib, dewisir lleoliadau sy’n cynnig mynediad, cyfleusterau a pharcio hygyrch. Mae cadeiriau a phropiau ar gael a gellir addasu’r ymarfer i fod yn gynhwysol i bawb.

​

Rwy’n croesawu ac yn annog cyfathrebu ymlaen llaw i drafod anghenion unigol.

​

Nod Gong Cymru yw ceisio darparu gofodau a phrofiadau adferol sy’n cefnogi llesiant, tra’n cynnal urddas, cynhwysiant a thegwch i bawb.

bottom of page