top of page
DSC02134.jpg
Gong Cymru Logo

Sain

"Sain yw meddyginiaeth y dyfodol"

Edgar Cayce

Rydym yn byw mewn byd swnllyd a chyflym, ble mae’n synhwyrau yn aml yn cael eu llethu. Wrth geisio cyflawni holl ofynion ein bywydau prysur, rydym yn gwthio ein hunain i’r eithaf ac mae hyn yn ei dro yn gallu achosi blinder parhaol.Os ydym yn anwybyddu’r arwyddion yma, cyn hir byddwn yn mynd yn sal.

Bwriad Gong Cymru ydi cynnig noddfa i chi oddi wrth prysurdeb bywyd bob dydd a chynnig profiad lle gall y system nerfol dawelu, y meddwl arafu, y corff orffwyso a’r enaid lonyddu.

Does dim angen i chi wneud dim ar wahân i orwedd (neu eistedd) wedi eich cynnal gan glustogau a blancedi – a gadael i synau’r gong eich amgylchynu a’ch trochi. Dyna pam fod y profiad yma’n aml yn cael ei alw’n faddon neu’n fath gong!  Mae gan sain y gallu anhygoel i gyrraedd mannau na all geiriau eu cyrraedd, gan symud drwy’r corff yn clirio unrhywbeth sydd angen ei ryddhau.

Mae pob sesiwn yn unigryw ac mae profiad pawb yn wahanol a phersonol.

Ffyrdd o brofi therapi Sain

Does dim ffordd well o ddeall beth yw trochfa gong na’i brofi drosoch eich hun. Gallwch wneud hynny mewn sawl ffordd:-

1:1 neu 2:1

DSC02616.jpg

Sesiynau therapi sain preifat ar gyfer unigolion neu gyplau/ffrindiau.

Hyd: 1 awr 15 mun

Pris: £55 i un person, £80 i ddau

Mae’r sesiynau yma’n cynnig trochfa sain mwy personol,un sydd wedi ei theilwra yn arbennig i chi. Cynhelir rhain mewn ystafell therapi ymlaciol yn fy nghartref yn y Felinheli. Estynir gwahoddiad ichi orwedd ar wely pwrpasol wedi eich cynnal gan flancedi a chlustogau. Mae bolsteri a chlustogau llygaid hefyd ar gael. Nid oes angen ichi ddod a dim gyda chi!

 

Mae’r sesiynau yma’n addas i bawb, ac yn cynnig opsiwn mwy hygyrch ar gyfer y rhai sy’n gweld gostwng a chodi oddi ar y llawr yn heriol.

Sesiwn i Fudiad/Busnes/Gweithle

DSC02540.jpg

Trochfa sain wedi’i theilwra ai haddasu yn arbennig i chi. Cynhelir rhain mewn lleoliad o’ch dewis. Mae fy nghyn gleientiaid yn cynnwys: Nant Gwrtheyrn, Gisda a’r Mudiad Meithrin.

Trochfa Sain Grŵp Preifat

DSC02073.jpg

Trochfa sain ar gyfer ffrindiau, teuluoedd neu grwpiau bach.  Caiff y sesiynau yma eu haddasu i weddu anghenion eich grwp a chynhelir hwy mewn lleoliad o’ch dewis chi.

Trochfa Gong Gymunedol

DSC02187.jpg

Cynhelir rhain mewn sawl lleoliad gwahanol ar hyd a lled gogledd Cymru, ac maent yn croesawu unigolion i orffwys a phrofi sain gyda’i gilydd.

Hyd: 1 awr a 15 munud

Pris: £15 y pen

Ar hyn o bryd, cynhelir pob trochfa gong gymunedol ar Nos Sul. Gellir cynnig sesiynau cymunedol ychwanegol mewn lleoliadau gwahanol ar Nos Wener, os oes galw.

 

Os hoffech chi gael trochfa gong yn eich cymuned leol, mae croeso ichi gysylltu.

Beth yw Gong?

FAQs

Hyfforddiant a Chymwysterau
Therapi Sain

Logo Sound Healing

Rwyf wedi hyfforddi a chymhwyso fel Therapydd Gong o dan arweiniad Sheila Whittaker (2022) a Steph Healy (2023-2024) gyda Choleg Iachau Sain. Rwy’n aelod llawn or coleg ac mae gen i yswiriant llawn

bottom of page