

Yoga
a Sain
Yoga a Sain
Mae Yoga a Sain yn arferion hynafol, ill dau gyda’i ddyfnder a’i ddoethineb ei hun. I’r rhai ohonoch sydd am brofi cyfuniad o’r ddau ymarfer holistaidd yma, byddaf yn cynnig gweithdai achlysurol i gyd-fynd â llif y tymhorau.
​
Bydd manylion gweithdai Yoga a Sain yn cael eu rhannu yma pan fyddant ar gael.
​
Yoga a Sain ar gyfer mudiadau, busnesau a gweithleoedd​
​
Gellir cynnig cyfuniad o Yoga a Sain mewn gweithleoedd, diwrnodau lles, diwrnodau HMS neu leoliad grŵp. Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio i gefnogi iechyd a lles, lleihau straen ac annog ffocws a phresenoldeb. Gellir teilwra’r sesiynau i weddu anghenion eich grwp gan gynnig profiad hyblyg a gofalgar.
​

Encil Alban Hefin
19-21 o Fehefin
Nant Gwrtheyrn
Penwythnos adferol i ddathlu Heuldro'r Haf ynghanol prydfewrthwch unigryw Nant Gwrtheyrn.
Cewch gyfle i ymarfer Yoga (Dru/Hatha/Nidra) a phrofi sawl Trochfa Sain dan arweiniad Leisa (Gong Cymru). Bydd digon o amser rhydd i ymlacio, crwydro neu fyfyrio ym myd natur.
​
Tocynnau ar gael trwy Nant Gwrtheyrn.
